Clybiau

Mae gan CFFI Sir Benfro glybiau ar draws y sir o Eglwyswrw yn y gogledd lawr yr holl ffordd i South Pembs yn y de. Mae’r clybiau yn cynnig cyfleon unigryw ac yn brolio’r gallu i gynnig profiad i bob person ifanc beth bynnag bo’u oedran neu’u diddordeb.

Chwedl rhai bod mudiad y Ffermwyr ifanc yn ffocysi ar Amaethydddiaeth a chefn Gwlad yn unig, ac er ein bod yn falch ofnadwy  o gefndir amaethyddol gwledig y mudiad, mae ein clybiau yn cynnig ystod eang o weithgareddau a nosweithi clwb o fis medi i fis medi. Mae rhain yn eang iawn, o gystadleuathau i nosweithi clwb gyda cwn yr heddlu, blasu hufen ia, peintio gwynebau, gwneud selsig, a ymweliadau allanol i wylio gemau rygbi, nosweithi ffilm a cyfoeth o gyfleuoedd eraill. Mae hefyd calendr iach o gyfleuoedd cymdeithasu gyda dawnsfeydd a chyfleuoedd i gymysgu a gwneud ffrindiau newydd o bob rhan o’r sir.

Edrychwch ar y map i ddod o hyd i’ch clwb lleol a sut i gysylltu neu cysylltwch a ni yn Swyddfa’r sir am ragor o wybodaeth.